Dartford 2–1 Wrecsam

Mae rhediad da Wrecsam wedi dod i ben ar ôl iddynt golli am y tro cyntaf yn 2013 wrth ymweld â Princes Park i wynebu Dartford brynhawn Sadwrn.

Roedd y gêm i fod i gael ei chwarae nos Wener ond cafodd ei gohirio dros nos oherwydd y glaw ond wnaeth hynny ddim effeithio’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf wrth i Danny Wright eu rhoi ar y blaen. Ond brwydrodd Dartford yn ôl yn yr ugain munud olaf gan ennill y gêm gyda gôl hwyr Elliot Bradbrook.

Daeth y gôl agoriadol hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan ddaeth Kevin Thornton o hyd i Wright yn y cwrt cosbi gan alluogi’r prif sgoriwr i rwydo i’r Dreigiau.

Wrecsam yn gyfforddus ar yr egwyl felly ond roedd Dartford yn well yn yr ail hanner ac fe lwyddodd Jack Evans unioni pethau gydag ergyd isel gywir chwarter awr o’r diwedd.

Yna, yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm fe gipiodd Bradbrook y tri phwynt i Dartford gyda pheniad.

Mae Wrecsam yn aros ar frig tabl y Blue Square er gwaethaf y canlyniad ond gall Kidderminster, Mansfield a Chasnewydd i gyd gau’r bwlch gyda buddugoliaethau’n hwyrach brynhawn Sadwrn.

Ymateb

Chwaraewr reolwr Wrecsam, Andy Morrell:

“Roedden ni’n dda iawn yn yr hanner cyntaf ac ro’n i’n meddwl y dylen ni fod wedi sgorio mwy. Ond yn yr ail hanner fe geision ni chwarae gormod yn ein hanner ein hunain gan greu llawer o drafferthion i ni ein hunain.”

.

Dartford

Tîm: Bettinelli, Green, Champion, Bonner, Rogers (Evans 68′), Arber, Bradbrook, Burns, Hayes (Rose 90′), Erskine, Harris (Wallis 90′)

Goliau: Evans 74’, 90’

Cerdyn Melyn: Harris 90’

.

Wrecsam

Tîm: Maxwell, Wright, Ashton, Westwood, Artell, Keates, Clarke, Thornton, Wright, Ormerod (Ogleby 73′), Adebola (Cieslewicz 84′)

Gôl: D. Wright 26’

Melyn: Clarke 82’, Keates 90’

.

Torf: 815