Mae bwyty sy’n cael ei gydnabod fel y bwyty gorau yn y byd wedi llwyddo i wenwyno mwy na 60 o’i gwsmeriaid.
Mae Noma yn Copenhagen yn fangre sanctaidd bron i’r rhai sy’n ystyried eu hunain yn dipyn o arbenigwyr ar fwyd a bwyta allan.
Ond mae’n ymddangos fod mwy na 60 o bobol wedi dioddef o wenwyn bwyd ar ôl cael pryd yno ym mis Chwefror.
Mae’r bwyty wedi ymddiheuro. Dydi hi ddim yn glir beth achosodd yr haint. Mae un adroddiad yn dweud efallai mai salwch un o weithwyr y gegin yno oedd y bai.
Fe agorodd y bwyty yn 2004, ac fe all pryd yn costio £175 ( a hynny heb ddiod). Mae’n rhaid archebu bwrdd yno misoedd o flaen llaw fel arfer.