Y reiat yn Port Said
Mae llys yn yr Aifft wedi cadarnhau’r dedfrydau o farwolaeth a roddwyd i 21 o bobl am eu rhan yn y reiat pêl-droed y llynedd yn y wlad lle gafodd 70 o bobl eu lladd.

Digwyddodd y terfysg yn ninas Port Said ar ôl gêm gynghrair rhwng y tîm lleol Al-Masry a thîm o Cairo, Al-Ahly. Ymosodwyd ar y cefnogwyr o Cairo gan gefnogwyr lleol.

Mae mwyafrif y rhai sydd wedi derbyn dedfrydau o farwolaeth yn gefnogwyr Al-Masry.

Yn dilyn penderfyniad y llys, mae rhai o gefnogwyr Al-Ahly wedi ymosod ar bencadlys ffederasiwn pêl-droed yr Aifft a’i roi ar dân.

Mae’r llys heddiw hefyd wedi dedfrydu cyn bennaeth diogelwch y ddinas, Uwch-frigadydd Essam Samak, i 15 mlynedd yn y carchar.