Bydd pedwar darlithydd newydd a fydd yn darlithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu penodi ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r Brifysgol wedi cadarnhau y bydd y swyddi newydd yn y meysydd Astudiaethau Gwybodaeth, Cymraeg Proffesiynol, Peirianneg Meddalwedd a’r Gyfraith.
Mae’r swyddi newydd hyn wedi cael eu noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd y darlithwyr newydd yn gyfrifol am addsgu a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg oddi fewn eu meysydd pwnc perthnasol.
E-ddysgu
Mae gofod addysgu newydd sydd wedi cael ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd wedi cael ei agor yn y Brifysgol.
Wedi ei lleoli ar gampws Penglais, byd yr ystafell ddysgu aml-bwrpas yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd mewn sefydliadau gwahanol, diolch i’r dechnoleg e-ddysgu diweddaraf.
Meddai Dr Anwen Jones, Cadeirydd cangen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, “Bydd y gofod dysgu newydd yn hwb sylweddol i’r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn fuddsoddiad gwerth chweil i’r dyfodol.”
Dros 100 o swyddi
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o brifysgolion sy’n datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i’w myfyrwyr gyda chefnogaeth cynllun cyllid cenedlaethol y Coleg Cymraeg.
Mae’r Coleg yn darparu £1 miliwn yn flynyddol am gyfnod o bum mlynedd yn y lle cyntaf i gefnogi swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg. Mae disgwyl y bydd y cynllun yn darparu dros 100 o swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg erbyn y flwyddyn academaidd 2015-16.