Mae'r Eglwys yn cychwyn ar y broses o chwilio am olynydd i Benedict XVI
Mae cardinaliaid yr Eglwys Gatholig o bob cwr o’r byd yn cyfarfod yn Rhufain heddiw yn y cyntaf o gyfarfodydd cyn y conclaf i ethol y Pab nesaf.

Daw’r cyfarfod ar adeg dyngedfennol i’r eglwys wrth iddi orfod dygymod â phenderfyniad annisgwyl Benedict XVI i ymddeol – y tro cyntaf ers 600 mlynedd i Bab roi’r gorau iddi.

Cafodd y Cardinaliaid eu trin fel sêr roc wrth iddyn nhw fynd i’r Fatican y bore yma, gyda chriwiau teledu heidio o’u cwmpas wrth iddyn nhw wthio eu ffordd trwy’r torfeydd.

Y brif eitem ar yr agenda yw gosod y dyddiad ar gyfer y conclaf a gosod gweithdrefnau i baratoi ar ei gyfer – mae’r rhain yn cynnwys cau’r Capel Sistine i ymwelwyr a chlirio gwesty’r Fatican o feicroffonau cudd  rhag ofn i rywun geisio gwrando ar y sgyrsiau cyfrinachol y Cardinaliaid.

Mae’n annhebygol y byddan nhw’n cytuno ar ddyddiad heddiw.