Mae dynes a’i babi mewn cyflwr difrifol ar ôl cael eu taro gan gar ym Mhort Talbot brynhawn ddoe.
Roedd y ddynes, 40, yn cario ei mab dau fis oed pan gafodd ei tharo, ac mae’r heddlu wedi lansio apêl am lygad-dystion yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Cafodd y wraig ei tharo gan gerbyd ar yr A48, Baglan Road, Port Talbot, ar y gyffordd gyda Smallwood Road.
“O ganlyniad i’r gwrthdrawiad, cafodd anafiadau sy’n bygwth ei bywyd.
“Roedd hi’n cario ei bachgen bach dau fis oed sydd hefyd wedi ei anafu’n difrifol.
“Mae’r ddau yn cael eu trin yn Ysbyty Treforys.”
Dywedodd yr heddlu mai salŵn Mercedes E du oedd y cerbyd dan sylw.
Cafodd y gyrrwr a theithiwr eu cymryd i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Heddlu De Cymru yn gofyn am unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y cerbyd i gysylltu â Swyddfa’r Ffyrdd Orllewinol yn Llansamlet ar 01792 456999 estyniad 88-331, i gysylltu â’u gorsaf heddlu lleol neu i ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.