Mae dinas Karachi ym Mhacistan mewn galar ar ôl i fom pwerus ffrwydro ddoe mewn ardal gyda mwyafrif o drigolion Shia Moslemaidd.
Mae 45 o bobl wedi marw ar ôl i’r bom car ffrwydro tu allan i fosg gyda o leiaf 32 arall wedi cael eu hanafu yn ddifrifol.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ond mae grwpiau milwriaethus Sunni nad ydynt yn ystyried y Shia i fod yn wir Fwslemiaid wedi cynnal ymosodiadau o’r fath yn y gorffennol.
Mae diwrnod o alaru wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn y ddinas.