Mae’r banc anferthol HSBC wedi cyhoeddi elw o £13.7 biliwn dros y flwyddyn a aeth heibio.
Mae hyn yn ostyngiad o 6% o gymharu â’r ffigur cyfatebol y llynedd, ac mae’n is na’r £15.6 biliwn a oedd yn cael ei ddarogan gan arbenigwyr.
Llwyddodd i wneud yr elw sylweddol er gwaethaf gorfod talu £1.2 biliwn o ddirwy yn America – yr uchaf yn hanes y banc – i setlo ymchwiliad gan lywodraeth America i lanhau arian.
Mae’r banc yn gwneud tua 90% o’i arian y tu allan i Brydain ac mae wedi elwa ar fuddsoddi mewn marchnadoedd sy’n tyfu yn Asia.