Mae heddlu Gogledd Iwerddon wedi llwyddo i rwystro gweriniaethwyr milwriaethus rhag cyflawni ffrwydrad sylweddol yn ninas Derry.

Cafodd fan a oedd yn cael ei gyrru drwy ganol y ddinas ei rhwystro gan yr heddlu neithiwr, ac mae tri dyn wedi cael eu harestio.

Dywed yr heddlu fod pedwar dyfais mortar yn y fan, ac mai’r bwriad oedd bomio gorsaf heddlu yn y ddinas. Roedd to’r fan wedi cael ei agor er mwyn hwyluso’r ffrwydrad.

Mae’r heddlu wedi bod yn cadw gwyliadwriaeth gyson ar weriniaethwyr sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon, a’r gred yw i’r heddlu weithredu ar wybodaeth gudd wrth rwystro’r fan neithiwr.

Cafodd trigolion dros 100 o gartrefi gerllaw’r lle cafodd y fan ei stopio eu hanfon o’u cartrefi oherwydd pryderon am eu diogelwch.

Dywedodd Pat Ramsay, un o aelodau’r SDLP yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, ei bod hi’n amlwg fod yr heddlu wedi darganfod dyfais beryglus.

“Mae’n ymddangos bod yr  heddlu wedi cadw marwolaeth oddi ar strydoedd Derry,” meddai.