Y Bandana oedd yr enillwyr mawr yn Noson Wobrau’r Selar yn Neuadd Hendre ger Bangor nos Sadwrn.
Cipiodd y grŵp o Wynedd dair gwobr mewn noson a gafodd ei threfnu gan y cylchgrawn cerddoriaeth cyfoes Y Selar i ddathlu llwyddiant y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Y nhw gipiodd un o brif wobrau’r noson sef ‘Band Byw Gorau’ ac fe wnaethon nhw hefyd enill tlysau y Cân Orau am ‘Heno yn yr Anglesey’ a Record Fer Orau am y sengl ‘Heno yn yr Anglesey / Geiban’.
Cowbois Rhos Botwnnog a gipiodd y wobr am record hir y flwyddyn am eu halbwm Draw Dros y Mynydd a ryddhawyd ym mis Gorffennaf a’r grŵp addawol iawn o Gaerfyrddin, Y Bromas, a gafodd eu henwi’n Fand Newydd Gorau’r flwyddyn.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Geithin Evans a Dyl Mei sydd wedi chwarae yn rhai o fandiau mwya’r degad diwethaf ac yn perfformio ar y noson roedd Y Bandana, Cowbois Rhos Botwnnog, Sŵnami, Candelas, Y Bromas, Gwenno, Gai Toms ac Y Pencadlys.
Gwobrau diwydiant
Nid dim ond yr artistiaid oedd yn cael eu gwobrwyo wrth i’r Selar ddangos gwerthfawrogiad i nifer o bobl sy’n gwneud cyfraniad allweddol i’r diwydiant .
Cyflwynydd Radio Cymru a nifer o raglenni S4C, Lisa Gwilym oedd y Cyflwynydd Gorau; cafodd trefnwyr gigs Nyth yng Nghaerdydd eu henwi’n hyrwyddwyr gorau; a gadawodd trefnwyr gŵyl ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith ‘Hanner Cant’ gyda thlws y Digwyddiad Byw gorau.
“Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal noson o’r fath, ond yn ôl yr ymateb unfrydol gan y gynulleidfa a’r artistiaid neithiwr mae galw am ddigwyddiad o’r fath yn y flynyddol,” meddai trefnydd y gwobrau, Owain Schiavone.
“Er mai noson i gyflwyno gwobrau oedd hon yn bennaf, roedd hefyd yn gyfle i gael gig mawr cyntaf y flwyddyn ac roedd artistiaid gwych yn perfformio ar y noson – pob un wedi bod yn weithgar iawn dros y flwyddyn ddiwethaf.”
“Y peth mwyaf cadarnhaol i mi oedd gweld cynulleidfa ifanc a brwdfrydig iawn am eu cerddoriaeth yna’n mwynha’r artistiaid – gan mai cylchgrawn i hybu’r sin ymysg pobl ifanc ydy’r Selar yn bennaf, mae hynny’n galonogol iawn ac yn awgrymu ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn!”
“Mae’n rhaid cymryd y cyfle i longyfarch yr holl enillwyr ar y noson, a hefyd pawb oedd ar y rhestrau byr – y cyhoedd oedd wedi pleidleisio drostynt a gobeithio bod hynny’n hwb iddynt ddal ati i weithio’n galed.”
Mae rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar i’w weld yn y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn sydd allan rŵan (fersiwn electronig fan hyn).