Mae cannoedd o brotestwyr yn yr Almaen wedi atal gweithwyr rhag dychwel un o ddarnau olaf y wal hanesyddol yn Berlin, lle mae adeiladwyr yn gobeithio codi fflatiau newydd.

Roedd dros 300 o brotestwyr wedi ymgynull ar safle yr East Side Gallery gyda baneri a arwyddion yn erbyn y gwaith.  Symudon nhw mor agos at y wal, nad oedd hi’n ddiogel cario ymlaen gyda’r gwaith dymchwel.

Yr East Side Gallery yw’r rhan hiraf o’r wal sydd yn dal i sefyll, ac mae’n un o atyniadau twristaidd fwyaf y ddinas.  Cafodd ei adfywio yn ddiweddar, ar gost o £1.7 miliwn i’r ddinas.

Roedd y darn yma yn sefyll ar ochr ddwyreiniol y ffin oedd yn rhannu Berlin, ond cafodd ei orchuddio gyda graffiti a lluniau pan agorodd y ffin yn 1989.  Mae dros 120 o luniau wedi eu peintio arno erbyn heddiw.

Ond er poblogrwydd y wal ymysg trigolion, mae un o swyddogion y ddinas wedi dweud y bydd rhaid ei ddymchwel.  Dywedodd Franz Schulz bod yr awdurdodau wedi caniatau i adeiladwyr ddymchwel 20 metr o’r wal, er mwyn adeiladu ffordd i arwain at fflatiau newydd ar lannau’r afon Spree.