Leanne ar lwyfan y gynhadledd
Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud bod angen trosglwyddo cyfrifoldebau o Lundain i Gymru “heb oedi a heb esgusodion”.
Yn ei haraith i Gynhadledd Wanwyn Plaid Cymru ym Miwmares dywedodd Leanne Wood y dylai Cymru gael cyfrifoldeb yn syth dros gyfiawnder, yr heddlu, darlledu ac ynni, gan gynnwys dŵr.
“Ni ddylai Cymru ymddiried yn Llywodraeth Prydain i fod yng ngofal unrhyw bwerau,” meddai.
Dywedodd fod ymgyrch etholiad y Cynulliad 2016 wedi dechrau eisoes a bod yn “rhaid i Blaid Cymru ennill yr etholiad.”
Roedd yn nodi bod Llywodraeth bresennol Cymru wedi ffurfio 59 o grwpiau ‘tasg a gorffen’ a bod hynny’n dangos fod y llywodraeth yn “brin o syniadau”.
“Mae’n hen bryd tasgu’r llywodraeth yma a’i gorffen hi,” meddai hi i gymeradwyaeth y cynadleddwyr.
Addysg
Roedd Leanne Wood yn arbennig o feirniadol o record y Llywodraeth ar addysg.
“Mae’n syfrdanol fod addysg – y rhoddwyd cymaint o bwys iddi yng Nghymru– bellach yn un o’n methiannau mwyaf,” meddai.
“Mae 40% o blant yn gadael ysgolion cynradd heb y gallu i ddarllen ac ysgrifennu i’r safon disgwyliadwy,” meddai
“Mae miloedd yn y chwarter o awdurdodau sydd dan fesurau arbennig.”
Defnyddiodd eiriau Dylan Thomas i ddisgrifio addysg yng Nghymru fel “mynwent uchelgais”
Ymateb
Mae araith Leanne Wood wedi cael ei chanmol yn fawr gan gefnogwyr Plaid Cymru ar Twitter, ond nid yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwirioni i’r un graddau.
“Y cyfan glywon ni oedd yr un hen deimladau gan blaid o arwahanwyr sy’n benderfynol o ynysu Cymru wrth weddill y Deyrnas Gyfunol,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae’r gynhadledd ar Ynys Môn wedi cynnig yr olygfa bizâr o arweinydd gwrth-niwclear sy’n bleidiol i syniadau fyddai’n dinistrio economi Ynys Môn trwy gael gwared ar Wylfa B.”