Protestio yn erbyn treisio
Mae torf fawr wedi cynnal protest yn ninas Delhi yn India, wedi adroddiadau bod merch saith mlwydd oed wedi ei threisio mewn ysgol.
Bu heddlu’r ddinas eisoes yn holi staff yr ysgol, tra bod torf o bobol wedi ymateb yn flin i’r newyddion, gan brotestio y tu allan i’r ysbyty lle mae’r ferch yn cael ei thrin.
Dywedodd un o’r meddygon oedd yn trin y ferch, Dr Sanjay Kumar, bod ganddi anafiadau oedd yn gyson gydag ymosod rhywiol.
Protestio’n erbyn y treisio
Roedd pobol y tu allan i’r ysbyty wedi taflu cerrig at fws, gan dorri ei ffenestri. Roedd heddlu yn ceisio dod â’r dorf dan reolaeth.
Mae sawl ymosodiad rhywiol a threisgar wedi digwydd yn India yn ddiweddar, gan gynnwys dynes oedd yn astudio meddygaeth a chafodd ei threisio gan saith o ddynion ar fws.
Mae’r ymosodiadau wedi denu beirniadaeth gref gan bobol India, ac mae llawer wedi galw ar y llywodraeth i wneud mwy i weithredu yn erbyn ymosodiadau ar ferched.