Cafodd dyn ei lyncu wrth i dwll sinc agor oddi dan ei dŷ yn Florida ddoe, a dinistrio’r tŷ yn y broses.

Nid yw timau achub wedi gallu dod o hyd i’r dyn, wrth iddyn nhw archwilio’r twll naw metr ar hyd sydd o dan y tŷ.

Dywedodd brawd y dyn, sydd heb ei enwi, ei fod wedi clywed swn mawr yn agos i hanner nos, ac yna clywodd ei frawd yn gweiddi am gymorth.  Pan gyrhaeddodd yr llofft, doedd dim ystafell ar ôl.  Roedd rhaid i blismon ei dynnu o’r tŷ oherwydd perygl i’r adeilad gwympo ar ei ben.

Does dim arwydd o’r dyn ers y digwyddiad.

Teclynnau’n synhwyro’r twll

Dywedodd Jessica Daimco, llefarydd ar ran Gwasanaeth Dân Hillsborough:

“Pan gyrrhaeddon ni, roedd yr ystafell wedi diflannu, mae’r tŷ cyfan ar ben y twll sinc.  Rydyn ni wedi rhoi teclynnau synhwyro yn y twll ond does dim arwydd o fywyd yno.”

Er hynny, doedd y gwasanaethau brys ddim am ddatgan marwolaeth y dyn, nes bod tystiolaeth o’r ffaith.

Mae cymdogion yn yr ardal wedi eu symud o’u tai.