Mae Cyngor Gwynedd wedi ceisio tawelu meddyliau trigolion y sir am darddiad y cig maen nhw’n ei weini i blant a phobol hŷn.
Wythnos yma mae saith o gynghorau Cymru wedi tynnu rhai bwydydd oddi ar fwydlenni ysgolion a chartrefi gofal.
Ond yn ôl aelod o Gabinet Gwynedd, Paul Thomas, mae ysgolion a chartrefi preswyl Gwynedd yn derbyn cig sy’n ddiogel ac yn dod o ddau gyflenwr lleol.
“Rydym ni wedi derbyn llythyrau gan y ddau gyflenwr nad oes ganddyn nhw unrhyw gyswllt â chig ceffyl,” meddai yng nghyfarfod llawn y cyngor wythnos yma.
“Gellir olrhain tarddiad yr holl gig ddaw drwy wasanaeth arlwyo Cyngor Gwynedd yn ôl i fuarth y fferm lle magwyd yr anifail, a hynny drwy dechnoleg barcôd.”
Profion prydau rhewiedig yn negatif
Mae profion ar brydau wedi eu rhewi ar gyfer yr adran gwasanaethau cymdeithasol wedi dangos nad oes unrhyw ôl o gig ceffyl ynddyn nhw.
Mae’r Cynghorydd Gareth Thomas o Benrhyndeudraeth, wedi croesawu’r cadarnhad.
“Mae’n cynnig tawelwch meddwl i drigolion bregus Gwynedd sy’n ddibynnol ar wasanaeth arlwyo’r sir am eu prydau bwyd.”
Ysgolion
“Mae gan bob ysgol gynradd yn y sir fwydlen sy’n newid yn wythnosol,” meddai Paul Thomas.
“Mae sicrhau tarddiad lleol i’r bwyd yn costio ychydig yn fwy na phrynu bwyd mewn sympiau mawr o Loegr, ond mae’n sicrhau bod pob plentyn yn derbyn pryd maethlon o safon, sy’n cynnwys y cynhwysion a nodir ac a ddisgwylir o fewn y pryd.”