Mae bragdy yng ngogledd Cymru wedi bragu cwrw arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
‘Leeky Barrel’ yw enw’r cwrw sydd wedi’i fragu gan Fragdy Bwyd Gogledd Cymru a Chonwy, ac maen nhw wedi defnyddio cennin wedi’u carameleiddio.
Yn ôl y bragwyr, mae’r gwrthgyferbyniad rhwng blas esmwyth y cennin a chwerwder y cwrw casgen yn creu’r cwrw perffaith.
Dywedodd llefarydd ar ran y bragdy: “Roedden ni am wthio’r cwch i’r dŵr ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi eleni ac mae ein bragwyr wedi creu’r cydbwysedd perffaith o gennin a chwrw.”