Pab Bened XVI
Fe fydd degau o filoedd o bobol yn ymgasglu y tu allan i’r Fatican yn Rhufain heddiw i glywed gwrandawiad cyhoeddus olaf y Pab Bened XVI.
Fe fydd e’n annerch y dorf am y tro olaf cyn iddo roi’r gorau i’r swydd yfory.
Mae oddeutu 50,000 o docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer yr achlysur, ac mae degau o filoedd yn rhagor yn debygol o aros ar y strydoedd o amgylch y Fatican i glywed yr araith.
Mae sgriniau teledu mawr wedi cael eu gosod ger y Fatican.
Cyhoeddwyd ddoe y byddai Bened XVI yn derbyn teitl ‘Pab Emeritws’ pan fydd yn ymddeol yn swyddogol.
Mae’r Pab fel arfer yn marw wrth ei waith ac felly mae’r Eglwys Gatholig yn y sefyllfa brin o gael dau Bab ar dir y byw.
Ond mae Bened XVI eisoes wedi dweud y bydd yn cilio i’r cefndir pan fydd ei waith ar ben.
Mae’r Fatican wedi dweud nad yw’n rhagweld unrhyw broblemau.