Mae cwmni nwy Centrica wedi cyhoeddi elw o £606 miliwn ar gyfer 2012, a hynny ar ôl corddi’r dyfroedd drwy godi prisiau nwy yn ystod y flwyddyn.

Mae’r cyhoeddiad yn debygol o ennyn dicter y cyhoedd, wrth i’r cynnydd o 11% mewn elw gael ei greu gan ddefnydd cynyddol o danwydd yn y tywydd oer.

Dywedodd y cwmni fod yna gynnydd o 12% yn y defnydd o nwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod gostyngiad o 1% yn nifer cwsmeriaid y cwmni yn yr un cyfnod.

Daw’r cyhoeddiad diweddaraf ychydig ar ôl i gwmni Nwy Prydain gynyddu biliau ynni o 6% ar ddiwedd 2012.

Mae Centrica wedi amddiffyn yr elw, gan ddweud eu bod nhw wedi talu hyd at £2.7 biliwn mewn trethi yn ystod y flwyddyn.

Cynnydd mewn prisiau eto?

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Centrica, Chris Jansen wrth raglen Daybreak ar ITV: “Rwy’n deall yn iawn y bydd ein helw a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn ennyn ymateb gan gwsmeriaid.

“Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cofio yn 2011 ei bod hi’n aeaf mwyn iawn, felly defnyddiodd y wlad dipyn llai o nwy, ac mewn gwirionedd, roedd ein helw yn 2011 wedi gostwng 20% o 2010.”

Gwrthododd ddweud a fyddai yna ragor o gynnydd ym mhris nwy yn y flwyddyn i ddod.

Ychwanegodd: “Y duedd yn gyffredinol ar gyfer prisiau ynni yw eu bod nhw’n cynyddu. Y cyfan rydyn ni’n dweud wrth gwsmeriaid yw y gwnawn ni beth allwn ni i reoli biliau ynni.

“Efallai bod prisiau’n cynyddu ond does dim angen i filiau gynyddu os ydyn ni’n rheoli ein defnydd o ynni.”

‘Marchnad gystadleuol’

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr ynni’r cartref Nwy Prydain, Ian Peters wrth y BBC: “Os ydw i’n edrych i’r dyfodol, does gyda ni ddim cynlluniau i gynyddu prisiau eto fyth, mae prisiau nwy yn eithaf sefydlog.”

“Mae’n gynnar iawn yn y flwyddyn, rydyn ni’n gweithio mewn marchnad gystadleuol iawn a dydy hi ddim o fudd i ni godi prisiau ein cwsmeriaid. Felly byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i beidio gwneud hynny.

“Yr hyn rwy am ei ddweud yw y gwnawn ni bopeth yn ein gallu i gadw biliau ein cwsmeriaid i lawr. Mae gyda ni’r biliau isaf yn y diwydiant.”