Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio gwraig 65 oed yn ei chartref yn Wrecsam.
Mae Alexandros Weatherill, 23, a Christopher Curran, 34, wedi eu cyhuddo o lofruddio Glynis Eileen Solmaz ac o gynllwynio i ladrata.
Mae dau ddyn arall – Christopher Natt, 52, a David Lovell, 29, – hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i ladrata.
Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i dy ym Mryn Hafod, Wrecsam toc wedi 10yb ddydd Mercher, 20 Chwefror lle cafwyd hyd i gorff Glynis Solmaz.
Mae’r pedwar dyn yn dod o ardal Wrecsam ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys Ynadon Wrecsam bore ma.