Y bws yn gorymdeithio drwy'r ddinas
Mae chwaraewyr Abertawe a’u rheolwr, Michael Laudrup wedi cael eu llongyfarch am ennill Cwpan Capital One, mewn gorymdaith trwy’r ddinas ac mewn derbyniad arbennig yn Neuadd y Brangwyn.

Ymgasglodd y dorf ar hyd y daith rhwng Gwesty’r Dragon a Neuadd Brangwyn am gyfle i weld y Gwpan yn nwylo’r capteiniaid, Ashley Williams a Garry Monk.

Ar ddiwedd gorymdaith mewn bws agored, cafodd enillwyr Cwpan Capital One eu croesawu gan filoedd o gefnogwyr.

Roedd yn gyfle i longyfarch y tîm yn swyddogol ar eu buddugoliaeth o 5-0 yn erbyn Bradford yn Wembley ddydd Sul diwethaf.

Dechreuodd y bws ei daith o Westy’r Dragon ychydig ar ôl 5pm, cyn symud ar hyd y Kingsway ac i lawr Heol San Helen cyn cyrraedd Neuadd y Brangwyn toc wedi 5.30pm.

Yn dilyn y dathliadau ar strydoedd y ddinas, cafodd y chwaraewyr eu croesawu’n ffurfiol gan yr Arglwydd Faer, Aelodau Seneddol a’r Cynulliad, a chynghorwyr y ddinas.


Schechter a de Guzman
‘Camp anferth’

Dywedodd rheolwr Abertawe, Michael Laudrup wrth Golwg360: “Roedd ennill y Gwpan yn gamp anferth a gwych.

“Dyma dlws cyntaf y clwb yn ei hanes, felly rwy’n falch dros bawb.

“Mae’r fuddugoliaeth hon yn uchel ar fy rhestr i. Mae’n hollol wahanol i ennill fel rheolwr ar ôl ennill fel chwaraewr.

“Wnaethon ni barhau i chwarae yn y gystadleuaeth gyda’r un arddull ac athroniaeth â’r tymor diwethaf.

“Roedd angen i ni ddod ag ychydig o chwaraewyr newydd i mewn am fod pedwar neu bump wedi gadael ar ddiwedd tymor diwethaf, ond rwy’n credu eu bod nhw wedi setlo’n berffaith ac ry’n ni wedi arwyddo nifer o chwaraewyr da iawn.”

Un llygad ar Ewrop

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu y bydd Abertawe yn cael cystadlu yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf ond am y tro, mae Michael Laudrup yn awyddus i ganolbwyntio ar yr Uwch Gynghrair.

“Mae’n rhy gynnar i ddechrau sôn am chwarae yn Ewrop. Ry’n ni am ganolbwyntio ar yr ymgyrch yn yr Uwch Gynghrair am y tro. Mae 11 gêm i fynd, ond ry’n ni’n dechrau paratoi nawr.

“Ond mae angen i ni orffen y tymor yn dda nawr.”

Er bod y rheolwr yn gyndyn o roi gormod o bwyslais ar chwarae yn Ewrop, dywedodd un o’r chwaraewyr hynaf yn y tîm, Leon Britton, wrth Golwg360 ei fod yn gyffrous wrth feddwl am Gynghrair Europa.

“Bydd chwarae pêl-droed yn Ewrop yn brofiad gwych, ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato.

“Bydd y cefnogwyr yn mwynhau teithio ledled Ewrop i’n gwylio ni, ac fe fydd timau gwych yn dod i’r Liberty gyda’n harddull ni o chwarae.

“Mae’n mynd i fod yn antur fawr i bawb.”

‘Anhygoel’

Mae Leon Britton, sydd wedi cynrychioli Abertawe ym mhob cynghrair yn y Gynghrair Bêl-droed, yn gwybod yn well na neb gymaint mae’r fuddugoliaeth yn ei olygu i’r clwb a’r cefnogwyr.

“Mae hyn ychydig yn wahanol i’r lle’r oedden ni ddeng mlynedd yn ôl. Mae mwy o gefnogwyr gyda ni nawr am un peth!

“Ry’n ni yn yr Uwch Gynghrair ac ry’n ni newydd ennill ein tlws mawr cyntaf.

“Ddeng mlynedd yn ôl, roedden ni ar waelod y Gynghrair Bêl-droed. Mae’r peth yn anhygoel!”

“Rhaid rhoi tipyn o glod i Huw Jenkins (y cadeirydd). Mae’r rheolwyr mae e wedi eu penodi wedi ein symud ni ymlaen bob tymor.

“Gyda’r gyllideb sydd gyda ni o’i chymharu â nifer o glybiau eraill, mae’n haeddu tipyn o glod am bopeth mae e wedi’i wneud.”