Dylid gwneud mwy i leihau nifer yr achosion o farw-enedigaethau yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Yn ôl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o farw-enedigaethau ymysg darpar-rieni a gweithwyr meddygol proffesiynol.
Marw-enedigaeth yw’r math mwyaf cyffredin o farwolaeth plant yng Nghymru o hyd ac mae tua phedwar baban yn marw bob wythnos, yn ôl ymchwiliad y Pwyllgor.
Er bod nifer y marw-enedigaethau a marwolaethau ymysg plant wedi gwella yn ystod y degawd diwethaf, prin fod nifer yr achosion o farw-enedigaethau wedi newid ers y 1990au, clywodd y pwyllgor.
‘Brawychus’
Mewn ymchwiliad diweddar oedd yn edrych ar gyfradd marw-enedigaeth mewn 35 o wledydd Ewrop, roedd y DU yn y 33ain safle gyda 150 o farwolaethau yn 2011. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mark Drakeford AC, bod y dystiolaeth yn “frawychus”.
“Fel pwyllgor, rydym yn gwbl glir fod y gyfradd marw-enedigaethau yng Nghymru ar hyn o bryd yn annerbyniol,” meddai.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes un ateb i ddatrys y broblem, a bod angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ymhellach ar gymryd camau weddol fach ym meysydd ymchwil meddygol a gwybodaeth i’r cyhoedd i helpu’r rhai sy’n bwriadu dechrau teulu i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
‘Trasiedi sy’n distrywio teuluoedd’
Dywedodd Mark Drakeford: “Mae marw-enedigaeth yn drasiedi sy’n distrywio teuluoedd. Ac eto, mae ein hymwybyddiaeth, fel poblogaeth, o farw-enedigaeth – yn benodol yr hyn sy’n ei achosi a’r hyn y gellir ei wneud i’w rwystro – yn bryderus o isel.
“Fel Pwyllgor, does dim amheuaeth gyda ni fod modd lleihau nifer yr achosion o farw-enedigaethau yng Nghymru.
“Mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o farw-enedigaeth a’r peryglon sy’n gallu cyfrannu tuag ato ymysg y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.
“Mae angen rhagor o ymdrech hefyd i ddeall achosion marw-enedigaeth, yn enwedig gan fod hanner y marwolaethau’n cael eu cofnodi’n ‘ddiesboniad’.”
Argymhellion
Mae’r pwyllgor wedi gwneud sawl argymhelliad i geisio lleihau nifer yr achosion yng Nghymru, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, sicrhau bod gweithwyr iechyd yn trafod marw-enedigaeth gyda phob darpar-riant, a rhoi mwy o hyfforddiant ynglŷn â marw-enedigaeth i fydwragedd ac obstetryddion.
Cyfaddefodd Mark Drakeford nad oedd ateb syml i wella’r sefyllfa, ond bod hynny ddim yn esgus i wneud dim byd.
“Ni allwn ddisgwyl i un cam drawsnewid y darlun cyfan – mae natur marw-enedigaethau yn rhy gymhleth i dybio bod ateb syml yn bodoli.
“Drwy gynyddu’n hymwybyddiaeth o farw-enedigaethau, ymdrechu i ddeall yr achosion gwaelodol a chanolbwyntio’n hymdrechion ar atal y colledion hyn, y mae modd eu hosgoi.”