Y bws yn gorymdeithio drwy'r ddinas
Mae tîm Abertawe wedi bod yn gorymdeithio trwy ganol y ddinas ar fws agored i ddathlu eu llwyddiant yng Nghwpan y Gynghrair.
Mae miloedd o gefnogwyr wedi tyrru i longyfarch y tîm ar guro Bradford 5-0 a chipio cwpan mawr cyntaf y clwb ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant.
Dechreuodd y bws agored ymlwybro o westy’r Ddraig ar y Kingsway gan anelu am Heol Sain Helen a Neuadd y Ddinas, ble mae derbyniad gyda’r Arglwydd Faer.
Ar risiau capel y Brunswick ar Heol Sain Helen cafodd y tîm ei longyfarch gan ganu Côr Phoenix.
Aeth y bws heibio’n agos iawn i hen gae’r Vetch, ble llwyddodd Abertawe i osgoi mynd allan o’r gynghrair yn 2003 gyda buddugoliaeth o 4-2 yn erbyn Hull. Sgoriodd James Thomas, sy’n yrrwr ambiwlans erbyn heddiw, dair gôl gofiadwy.
Leon Britton yw’r unig un o’r tîm yna sydd dal yn chwarae i Abertawe heddiw.
Un arall sy’n cofio’r dyddiau yn y bedwaredd adran yw capten Abertawe Garry Monk oedd ar flaen y bws heddiw gyda’r is-gapten Ashley Williams.
Dywedodd hyfforddwr tîm cyntaf Abertawe, Alan Curtis wrth Golwg360 yr wythnos diwethaf: “Mae’r gwpan wedi cydio yn nychymyg pawb. Dwi erioed wedi gweld cymaint o bobol rygbi sydd wedi cael eu trosi.”