Tom Maynard
Mae rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol wedi’i chofnodi yn y cwest i farwolaeth y cricedwr Tom Maynard.
Clywodd y cwest yn Llundain fod lefel yr alcohol yn ei gorff bedair gwaith yn fwy na’r lefel sy’n gyfreithlon ar gyfer gyrru.
Roedd hefyd wedi cymryd cymysgedd o gocên ac ecstasi ar y noson fu farw yn Llundain.
Cafodd Tom Maynard, 23, mab cyn-gapten a chyn-hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, ei daro gan drên tanddaearol yn Llundain ar Fehefin 18 y llynedd.
Tua awr cyn iddo farw, cafodd ei stopio gan yr heddlu pan gafodd ei gar Mercedes du ei weld yn cael ei yrru’n “eratig” ond roedd y cricedwr wedi ffoi rhag y plismyn.
Yn ystod y cwest, bu ei gariad Carly Baker a’r cricedwyr Jade Dernbach a Rory Hamilton-Brown yn rhoi tystiolaeth.
‘Profion ddim yn diffinio ein mab’
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: “Dydy canlyniadau’r profion ddim yn diffinio ein mab.
“Mae’r ffaith fod cymaint o bobol yn meddwl y byd ohono yn ei ddiffinio fel person.
“Yr unig bobol a fyddai’n ei farnu ar sail canfyddiadau’r cwest yw’r bobol hynny nad oedden nhw’n ei nabod e.
“Fe wnaeth e benderfyniadau’r noson honno oedd, yn drasig iawn, wedi costio’i fywyd iddo, ond fe fydd ei deulu a’i ffrindiau sydd wedi cael eu distrywio yn ei garu’n ddiamod ac yn gweld ei eisiau bob amser.
“Roedd e’n berson arbennig iawn ac mae ei farwolaeth yn gadael gofod anferth yn ein bywydau.”
‘Mwy o bwyslais ar les chwaraewyr’
Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) y bydd yna fwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddatblygiad a lles chwaraewyr yn dilyn marwolaeth Tom Maynard.
Dywedodd y PCA: “Mae gan griced raglen wrthgyffuriau gadarn sydd wedi bod mewn grym am nifer o flynyddoedd.
“Tra bod y rhaglen yn canolbwyntio’n bennaf ar gyffuriau gwella perfformiad, mae’n cynnwys profion mewn cystadlaethau ar gyfer cyffuriau hamddenol.”
Ychwanegodd fod profion positif ar gyfer y fath gyffuriau’n brin iawn.
Dywed y PCA eu bod nhw’n cefnogi profion cyffuriau, cyhyd â bod cefnogaeth ddigonol ar gael i unrhyw un sy’n profi’n bositif am gyffuriau.
Dywedodd llefarydd ar ran y PCA: “Rydyn ni, ynghyd â Chlwb Criced Surrey, Clwb Criced Morgannwg a Bwrdd Criced Lloegr (ECB) wedi cefnogi pawb sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan farwolaeth Tom, ynghyd â chwnselwyr profedigaeth, ac yn unigol lle bo angen.
“Rhaid i ni symud ymlaen a chofio Tom fel dyn ifanc dawnus dros ben yr oedd ganddo gymaint i edrych ymlaen ato.
“Rhaid i ni ganolbwyntio ar greu gwaddol positif er cof amdano.”