Tom Maynard
Mae teulu’r cricedwr Tom Maynard wedi ymateb yn dilyn y cwest i’w farwolaeth.

Clywodd y cwest yn Llundain fod y lefel alcohol yn ei gorff bedair gwaith yn fwy na’r lefel sy’n gyfreithlon ar gyfer gyrru.

Roedd hefyd wedi cymryd cymysgedd o gocên ac ecstasi ar y noson fu farw yn Llundain.

Cafodd Tom Maynard, mab cyn-gapten a chyn-hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, ei daro gan drên tanddaearol yn Llundain ar Fehefin 18 y llynedd. Clywodd y cwest ei fod wedi ei drydanu i farwolaeth.

‘Profion ddim yn diffinio ein mab’

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: “Dydy canlyniadau’r profion ddim yn diffinio ein mab.

“Mae’r ffaith fod cymaint o bobol yn meddwl y byd ohono yn ei ddiffinio fel person.

“Yr unig bobol a fyddai’n ei farnu ar sail canfyddiadau’r cwest yw’r bobol hynny nad oedden nhw’n ei nabod e.

“Fe wnaeth e benderfyniadau’r noson honno oedd, yn drasig iawn, wedi costio’i fywyd iddo, ond fe fydd ei deulu a’i ffrindiau sydd wedi cael eu distrywio yn ei garu’n ddiamod ac yn gweld ei eisiau bob amser.

“Roedd e’n berson arbennig iawn ac mae ei farwolaeth yn gadael gofod anferth yn ein bywydau.”

‘Person gwych’

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi iddo’r bore yma ar wefan Trydar.

Dywedodd cyn-gapten Swydd Hampshire, Shaun Udal: “Mor drist i glywed am ganfyddiadau cwest Tom Maynard. Teulu hyfryd. Rhaid bod hyn mor anodd iddyn nhw ar hyn o bryd. Mae fy meddyliau gyda nhw i gyd.”

Dywedodd cyn-fatiwr Morgannwg, Aneurin Norman: “Er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd am Tom, fydd fy marn i amdano ddim yn newid. Roedd e’n berson gwych ac yn foi o’r siort orau.”

Ychwanegodd y cyn-gricedwr, Charlie Dagnall: “Torcalonnus heb amheuaeth i Matthew a’r teulu ei ail-fyw eto. Y sefyllfa mor drasig.”

Dywedodd cyn-folwiwr Morgannwg, Adam Shantry: “Fydd dim un o ganfyddiadau’r cwest yn newid meddyliau’r sawl oedd yn nabod Tom Maynard. Fydd e fyth yn cael ei anghofio.”

‘Mwy o bwyslais ar les chwaraewyr’

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) y bydd yna fwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddatblygiad a lles chwaraewyr yn dilyn marwolaeth Tom Maynard.

Dywedodd y PCA: “Mae gan griced raglen wrthgyffuriau gadarn sydd wedi bod mewn grym am nifer o flynyddoedd.

“Tra bod y rhaglen yn canolbwyntio’n bennaf ar gyffuriau gwella perfformiad, mae’n cynnwys profion mewn cystadlaethau ar gyfer cyffuriau hamddenol.”

Ychwanegodd fod profion positif ar gyfer y fath gyffuriau’n brin iawn.

Dywed y PCA eu bod nhw’n cefnogi profion cyffuriau, cyhyd â bod cefnogaeth ddigonol ar gael i unrhyw un sy’n profi’n bositif am gyffuriau.

Dywedodd llefarydd ar ran y PCA: “Rydyn ni, ynghyd â Chlwb Criced Surrey, Clwb Criced Morgannwg a Bwrdd Criced Lloegr (ECB) wedi cefnogi pawb sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan farwolaeth Tom, ynghyd â chwnselwyr profedigaeth, ac yn unigol lle bo angen.

“Rhaid i ni symud ymlaen a chofio Tom fel dyn ifanc dawnus dros ben yr oedd ganddo gymaint i edrych ymlaen ato.

“Rhaid i ni ganolbwyntio ar greu gwaddol positif er cof amdano.”