Mae cwest i farwolaeth y cricedwr Tom Maynard wedi clywed ei fod wedi ei drydanu i farwolaeth.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar gledrau trên tanddaearol yn Llundain yn oriau mân y bore ar Fehefin 18 y llynedd.
Clywodd Llys y Crwner San Steffan i Maynard, oedd yn 23, gael ei drydanu cyn i drên ei daro a bu farw o anafiadau niferus.
Cafodd dyn tebyg yr olwg i Tom Maynard ei weld yn cael ei stopio gan yr heddlu wrth iddo yrru’n ddiofal yn ardal Wimbledon yn ne Llundain.
Dangosodd profion post-morten ei fod e wedi cymryd cocên ac ecstasi ar noson allan yn Wandsworth.
Roedd y lefel alcohol yn ei gorff bedair gwaith yn fwy na’r lefel a ganiateir ar gyfer gyrru.
Mae profion cyffuriau wedi dangos y gallai fod wedi cymryd cyffuriau’n rheolaidd hyd at dri mis a hanner cyn iddo farw.
Cricedwr dawnus
Dechreuodd Tom Maynard, mab cyn-gapten a chyn-hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, ei yrfa gyda Morgannwg yn 2007.
Yn wyneb cyfarwydd ac yn ffefryn gan gefnogwyr Morgannwg, treuliodd y batiwr llaw dde bedwar tymor gyda sir ei febyd cyn symud i Surrey yn 2011.
Arweiniodd ei berfformiadau at alwad i ymuno â charfan Llewod Lloegr ar gyfer eu taith i Sri Lanka a Bangladesh yn 2011.
Yn ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar Orffennaf 4 y llynedd, daeth mwy na 1,000 o bobol o’r byd criced a Chymru ben baladr i dalu teyrnged iddo.
Dywedodd cyn-gapten Morgannwg a rheolwr gyfarwyddwr tîm Lloegr, Hugh Morris ei fod yn “un o’n batwyr ifanc mwyaf cyffrous a ffrwydrol ni”, a’i fod yn “chwaraewr a wnâi i’r gamp edrych mor dwyllodrus o hawdd”.
Ychwanegodd ei fod yn sicr y byddai Tom Maynard wedi cynrychioli tîm rhyngwladol Lloegr yn ystod ei yrfa.
Dywedodd capten presennol Morgannwg, Mark Wallace fod gan Tom Maynard “chwa am fywyd” a’i fod yn “maverick ar brydiau”.
Ond ychwanegodd mai Tom Maynard oedd “y crwt a wnaeth i ni chwerthin yn fwy na neb rwy wedi cwrdd â fe erioed”.