Bale yn dathlu'r gol dyngedfennol (Adam Davy/PA Wire)
Gareth Bale oedd y seren unwaith eto neithiwr wrth iddo sgorio dwy gôl a sicrhau buddugoliaeth i Tottenham yn erbyn West Ham.

Mewn chwip o gêm yn Upton Park y Cymro rwydodd gyntaf, gan saethu ergyd ar draws y cwrt cosbi, a heibio Jussi Jaaskelainen i gornel isaf y gôl wedi 12 munud.

Ond ar noson i’w chofio 20 mlynedd ers marwolaeth cyn-flaenwr West Ham, Bobby Moore, daeth yr Hammers yn ôl yn gryf.

Yn dilyn yr ergyd gynnar, daeth goliau gan Andy Carroll o’r smotyn, ac yna Joe Cole i roi tîm Sam Allardyce ar y blaen.

Ond nid oedd Tottenham am ildio, gydag amddiffyn blêr gan West Ham yn gadael i Gylfi Sigurdsson rwydo, a dod a’r timau yn gyfartal.

Ac yna, unwaith eto, Gareth Bale oedd y gwahaniaeth rhwng y timau.  Wrth i’r cloc agosau at 90 munud, cododd o’r llawr yn dilyn tacl wael i dderbyn y bêl 25 troedfedd o’r gôl, a saethu bwled o ergyd i’r gornel uchaf.

Yn dilyn y gêm dywedodd rheolwr West Ham, Sam Allardyce, mai Bale yn unig oedd wedi curo ei dîm neithiwr, a bod ei ail gôl yn un o’r safon uchaf posib.

Roedd rheolwr Tottenham, Andre Villas-Boas hefyd yn llawn canmoliaeth i’r Cymro, ac awgrymodd y gall Bale dderbyn gwobr chwaraewr gorau’r tymor.

“Mae ganddo dalent gwych, a dyhead i barhau i geisio ennill tan y chwiban olaf.

“Mae’n haeddu’r wobr, ond nid fy mhenderfyniad i yw hynny.”