Mae’r Gleision wedi cyhoeddi heddiw na fydd capten y clwb, Andries Pretorius, yn chwarae am bedair mis yn dilyn llawdriniaeth i’w ysgwydd.

Cafodd Pretorius, sy’n 27 ac yn wreiddiol o Dde Affrica, ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ond ni fydd ar gael i’r tîm rhyngwladol ar gyfer y ddwy gêm sy’n weddill yn y Chwe Gwlad.

Ar gyngor tîm meddygol y Gleision cafodd yr wythwr lawdriniaeth ddydd Gwener, a dywedodd y Gleision bod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus.

Dywedodd y clwb y bydd Pretorius yn cymryd amser i wella ac yn gobeithio dychwelyd i ymarfer ym mis Mai.