Tom Maynard
Bydd cwest llawn i farwolaeth y cricedwr ifanc, Tom Maynard yn cael ei gynnal yn Llundain heddiw.

Bu farw’r cricedwr, oedd yn 23 oed ac yn dod o Bentyrch yng Nghaerdydd, ar gledrau trên tanddaearol Llundain ar Fehefin 18 y llynedd.

Bydd y cwest yn cael ei gynnal yn Llys y Crwner yn San Steffan.

Dechreuodd gyrfa’r batiwr disglair, oedd yn fab i gyn-gapten a chyn-hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, gyda sir ei febyd, cyn iddo symud i Surrey yn 2011.

Cafodd ei ddewis ar ddechrau 2012  i gynrychioli Llewod Lloegr ar daith i Fangladesh a Sri Lanka ar ôl tymor cyntaf llwyddiannus gyda Surrey.

Cadarnhaodd yr heddlu ar y pryd eu bod nhw wedi bod yn cwrso car Mercedes du cyn i Tom Maynard ddiflannu a chael ei ddarganfod ar y cledrau.