Abertawe yn dathlu yn Wembley
Bydd tîm Abertawe yn gorymdeithio ar fws agored y prynhawn yma i ddathlu eu llwyddiant yn Wembley ddydd Sul.
Curodd yr Elyrch Bradford o 5-0 yn rownd derfynol Cwpan Capital One i gipio eu tlws mawr cyntaf erioed.
Mae’r Elyrch yn dathlu eu canmlwyddiant eleni.
Bydd y chwaraewyr a’r hyfforddwr yn teithio o amgylch y ddinas, gan ddechrau o flaen Gwesty’r Dragon yn y Kingsway am 4.30pm.
Byddan nhw’n teithio i Neuadd Brangwyn ar gyfer derbyniad arbennig gyda’r Arglwydd Faer am 5.30pm.
Bydd nifer o ffyrdd yn cau bob yn dipyn wrth i’r bws deithio drwy’r ddinas.
Dywedodd hyfforddwr tîm cyntaf Abertawe, Alan Curtis wrth Golwg360 yr wythnos diwethaf: “Mae’r gwpan wedi cydio yn nychymyg pawb. Dwi erioed wedi gweld cymaint o bobol rygbi sydd wedi cael eu trosi.
“Mae pawb, hyd yn oed y bobol sydd wedi methu â chael tocynnau ar gyfer y rownd derfynol neu ar gyfer gemau yn yr Uwch Gynghrair, wedi cael eu swyno gan yr hyn sy’n digwydd, ac maen nhw’n mwynhau’r achlysur yn fawr.”