Daniel Day-Lewis
Mae’r Gwyddel Daniel Day-Lewis ymhlith y ffefrynnau i gipio Oscar am yr Actor Gorau y penwythnos yma.
Pe bai’n llwyddo i ennill y wobr am bortreadu cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Abraham Lincoln yn y ffilm Lincoln, Daniel Day-Lewis fyddai’r dyn cyntaf i gipio gwobr yr Actor Gorau dair gwaith.
Fy nhroed chwith
Enillodd y wobr am y tro cyntaf yn 1989 am y ffilm My Left Foot, ac yna yn 2007 am ei rôl yn There Will Be Blood.
Mae’r bwcis wedi ei wneud yn ffefryn i gipio trydydd Oscar, ac mae William Hill yn cynnig pris o 50-1.
Mae’r actor eisoes wedi ennill gwobr Golden Globe a Bafta am ei bortread o’r cyn-Arlywydd yng nghyfnod Rhyfel Cartref yr Unol Daleithiau.
Bydd Daniel Day-Lewis yn cystadlu yn erbyn Hugh Jackman, Denzel Washington, Joaquin Phoenix a Bradley Cooper.
Mae Lincoln wedi ei henwebu ar gyfer 12 gwobr i gyd.
Enwebiadau eraill
Mae nifer o Brydeinwyr eraill ar y rhestr fer ar gyfer Oscar, gan gynnwys y gantores Adele, a berfformiodd y gân ‘Skyfall’ ar gyfer y ffilm James Bond o’r un enw, a Naomi Watts am ei rôl yn y ffilm The Impossible.
Mae Skyfall wedi ei henwebu am bum gwobr, sef sinematograffi, y gerddoriaeth wreiddiol orau, golygu sain a chymysgu sain.
Bywyd Pai
Mae Life of Pi wedi ei henwebu ar gyfer 11 gwobr, tra bod Silver Linings Playbook wedi’i henwebu wyth gwaith.
Bydd Naomi Watts yn brwydro yn erbyn Jessica Chastain, Jennifer Lawrence, Quvenzhane Wallis ac Emmanuelle Riva am yr Oscar Actores Orau.
Argo Ledig Jean
Mae Les Misérables wedi ei henwebu ar gyfer y ffilm orau, ond dydy’r cyfarwyddwr Tom Hooper ddim ar y rhestr fer yng nghategori’r cyfarwyddwr gorau.
Bydd y ffilm sioe gerdd yn cystadlu yn mynd ben-ben ag Argo, Beasts Of The Southern Wild, Django Unchained, Life Of Pi, Amour, Lincoln, Silver Linings Playbook a Zero Dark Thirty.
Bydd y seremoni fawreddog yn cael ei chynnal nos Sul yma yn Los Angeles.