Emeli Sande
Dywedodd y gantores Emeli Sande ei fod yn “freuddwyd” ennill gwobr Brit, ar ol ei buddugoliaeth mewn dau gategori yn y seremoni neithiwr.

Cafodd Sande y wobr am y gantores Brydeinig orau, a chafodd ei halbwm, ‘Our Version of Events’ ei enwi fel albwm gorau’r flwyddyn.

Yn y seremoni yn yr 02 yn Llundain neithiwr, dywedodd y gantores, 25, ei bod hi’n falch bod gymaint o bobol wedi gallu uniaethu hefo’r caneuon.

“Diolch i bawb sydd wedi prynu’r albwm. Rydych chi’n gwneud i mi deimlo fel rhan o rywbeth mawr.  Yn wir, mae hyn yn freuddwyd,” meddai.

Un o enillwyr mawr arall y noson oedd Ben Howard, sydd wedi dod yn un o gantorion mwyaf adnabyddus Prydain yn 2012.

Cafodd ei enwi fel y canwr Prydeinig orau a’r artist newydd orau, cyn symud i’r llwyfan a pherfformio i’r dorf.

Ymysg yr enillwyr eraill oedd Adele am ei chân ‘Skyfall’ a enillodd y sengl orau, Mumford and Sons am y grŵp gorau, ac fe gipiodd One Direction wobr am eu llwyddiant rhyngwladol.

Roedd gwobrau hefyd i Coldplay, The Black Keys, Lana Del Rey a Frank Ocean.