Cowbois Rhos Botwnnog
Bydd rhai o brif gerddorion Cymru yn herio aelodau o raglen C2 mis nesaf, pan fydd Y Selar yn cynnal cystadleuaeth i weld pwy ydy pêl-droedwyr gorau’r sin roc Gymraeg.
Yn ogystal â chynnal Noson Wobrau’r Selar ym Mangor ar nos Sadwrn 2 Mawrth, yn y prynhawn bydd cystadleuaeth bêl-droed 5-bob-ochr arbennig rhwng timau amrywiol o’r sin.
“Dechreuodd y cyfan fel gêm gyfeillgar rhwng y grŵp Cowbois Rhos Botwnnog a chylchgrawn Y Selar” meddai trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.
“Ond yn raddol, diolch i sgyrsiau twitter ac ati, fe ddatblygodd i fod yn dwrnamaint cystadleuol rhwng 8 o dimau’n cynrychioli gwahanol rannau o’r sin.”
Y Timau
Bydd gan Sŵnami dîm yn y gystadleuaeth, tra bod tîm ‘Sbensh’ yn cael ei arwain gan y cerddor Gai Toms. Bydd timau C2 (Radio Cymru) a rhaglen adloniant Y Lle (S4C) yn cystadlu ar ran y cyfryngau, tra bod label recordio I Ka Ching a’r criw sy’n trefnu gigs ‘Nyth’ hefyd yn cymryd rhan.
Bydd y gemau’n cael eu chwarae rhwng 2 a 4 ar y pnawn Sadwrn ar y cyrtiau pêl-droed ger pwll nofio Bangor.
“Mae’r gwobrau gyda’r hwyr yn mynd i fod yn dipyn o achlysur, a dwi’n credu bydd y pêl-droed yn y pnawn yn ychwanegu at hynny” ychwanegodd Owain Schiavone.
“Bydd y timau’n cystadlu am ‘Gwpan Jarman’ – tlws sy’n talu teyrnged i un o fawrion y sin, Geraint Jarman, oedd hefyd yn bêl-droediwr brwd yn y ei ddydd.”
“Bach o hwyl fydd o’n hytrach na dim rhy gystadleuol, a dwi’n siŵr bydd yr hwyl yn parhau i mewn i’r parti yn y Gwobrau gyda’r hwyr.”
Cyhoeddi cyflwynwyr y gwobrau
Yn y cyfamser, mae’r Selar wedi cyhoeddi mai Dyl Mei a Gethin Evans fydd yn arwain Gwobrau’r Selar ac yn cyflwyno’r gwobrau ar y noson.
Mae’r ddau yn gerddorion amlwg sydd wedi bod yn aelodau o rai o grwpiau mwyaf y sin dros y ddegawd ddiwethaf, ond sydd bellach yn gyflwynwyr radio a theledu amlwg.
“Rydan ni am i’r Noson Wobrau fod yn ddigon hwyliog yn hytrach na bod yn stiff a ffurfiol, a heb os fe fydd Dyl a Geth yn sicrhau bod digon o hwyl,” meddai Owain Schiavone.
Yn perfformio ar y noson bydd Y Bandana, Cowbois Rhos Botwnnog, Sŵnami, Candelas, Y Bromas, Gwenno, Gai Toms ac YPencadlys.