Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd
Mae gan Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd hyd at ben blwydd y clwb yn 30 i ddod o hyd i rywun newydd i redeg y clwb, neu wynebu’r posibilrwydd o werthu’r safle eiconig.

Dyma yw neges ymddiriedolwyr y clwb, sydd wedi datgan eu bwriad i sefyll i lawr yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd ymddiriedolwyr ac ysgrifennydd y Clwb bod angen pobol newydd i sicrhau dyfodol y clwb fel canolfan Gymraeg, ond os nad oes cynnig addas yn dod i’r amlwg, bydd rhaid gwerthu’r safle ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Glyn Hughes, ysgrifennydd Clwb Ifor Bach: “Ers blynyddoedd lawer, lle i bobol ifanc ddod ynghyd yn hwyr y nos ydi Clwb Ifor Bach wedi bod.  Ond yr un bobol sy’n gyfrifol am y lle nawr a phan sefydlwyd ef, 30 mlynedd yn ôl, a dydi hynny ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.”

“Os ydi’r lle am barhau i weithio fel lle i bobl ifanc, mae’n rhaid cael pobl sy’n llawer nes at oed y gynulleidfa.”

Dywedodd Glyn Hughes y byddai’r ymddiriedolwyr – Niclas ap Glyn, John Peate Lloyd, a Siôn Wyn Ifans –  yn derbyn ceisiadau gan bobol oedd am gymryd y llyw, i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg a hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant.

Ond, os na fydd cais boddhaol yn cael ei wneud, mae’r ymddiriedolwyr wedi penderfynu gwerthu’r adeilad i ariannu digwyddiadau Cymraeg mewn mannau eraill.

“Mae’n bosibl fod Clwb Ifor Bach erbyn hyn yn rhy fawr ar gyfer y rhai hynny sy’n chwilio am gwmni eu cyd-Gymry Cymraeg; wedi’r cyfan mae’n rhaid llenwi lle o’r fath yn gyson os ydi o am barhau i sefyll ar ei draed. Ac os nad oes yna gynulleidfa Gymraeg i gael, mae’n rhaid cael cynulleidfa Saesneg.

“Felly os na chawn ni – erbyn ein pen-blwydd yn 30 oed ar ddechrau Gorffennaf – gynigion addas ar gyfer y dyfodol gan bobl sydd yn benderfynol o gadw canolfan Gymraeg yn yr adeilad yma, efallai mai ei werthu o fyddai orau,” meddai Glyn Hughes.

Bydd pwyllgor y clwb yn penderfynu ar unrhyw gynnig sy’n cael ei wneud i Glwb Ifor Bach, gan ystyried cynllun busnes unrhyw reolwr posib, a’u hymroddiad at amcan iaith a diwylliant y safle.