John Thomas, Pencerdd Gwalia
Mae gŵyl yn cael ei chynnal i nodi canmlwyddiant marw un o delynorion mwya’ Cymru.
Mae Gŵyl Pencerdd Gwalia yn coffáu John Thomas o Ben-y-bont ar Ogwr a ddaeth yn delynor swyddogol i’r Frenhines Victoria.
Cafodd deitl Pencerdd Gwalia yn yn Eisteddfod Aberdâr yn 1861 ac roedd yn gyfrifol am addasu nifer o alawon Cymru, megis Bugeilio’r Gwenith Gwyn.
Mae gwobr o £1,000 ar gael yn ystod yr ŵyl ym Mhenybont-ar-Ogwr i’r perfformiad gorau o gerddoriaeth gan John Thomas gan delynor dan 25 oed, a £500 yn y categori dan 17.
Caiff yr enillwyr gyfle hefyd i berfformio yng nghyngerdd yr ŵyl, yn y Tabernacl ym Mhenybont, gyda dwy delynores arall sydd â chyswllt brenhinol, Catrin Finch a’r Delynores Frenhinol bresennol Hannah Stone.
Merthyr, Caernarfon a Phenybont
“Fel cenedlaethau o delynorion yng Nghymru, fe ges i fy magu ar addasiadau John Thomas o alawon Cymreig,” meddai cadeirydd yr Ŵyl Elinor Bennett.
Bydd prif ddathliadau Pencerdd Gwalia yn cael eu cynnal yng nghynefin John Thomas ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 13 Ebrill 2013.
Bydd rowndiau rhagarweiniol y cystadlaethau yn cael eu cynnal ym Merthyr Tydfil ar 23 Mawrth ac yn ystod Gŵyl Delynau Caernarfon ar 3 Ebrill, gyda’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr.