Mae 11 o bobl wedi eu lladd ac o leiaf 50 wedi’u hanafu mewn dau ffrwydrad yn ninas Hyderabad yn India.
Roedd y ffrwydradau wedi taro Andhra Pradesh 2 funud ar wahân tua 7yh tu allan i sinema a gorsaf bws, meddai’r heddlu.
Mae’r Prif Weinidog Manmohan Singh wedi beirniadu’r ymosodiadau ac wedi dweud y bydd y rhai sy’n euog yn cael eu cosbi.
Cafodd y bomiau eu rhoi ar ddau feic tua 150 medr (500 troedfedd) ar wahân i’w gilydd yn Dilsukh Nagar sy’n ardal brysur yn llawn siopau a bwytai.
Dyma’r ymosodiad bom mwyaf o’i fath yn India ers mis Medi 2011 pan ffrwydrodd bom tu allan i uchel Lys yn New Delhi gan ladd 13 o bobl.