Mae ymchwil gan ITV Cymru yn awgrymu y bydd gan y Blaid Lafur fwyafrif o 51% yn yr etholiad Cynulliad nesaf.
Ar hyn o bryd, mae’r Blaid Lafur un sedd yn brin o’r mwyafrif y byddai ei angen er mwyn ennill rheolaeth lwyr ym Mae Caerdydd.
Mae’r ymchwil yn awgrymu y gallai eu mwyafrif gynyddu i 54%.
Mae’r gefnogaeth i’r Blaid Lafur yn lleol wedi disgyn o 50% i 46%, ac mae’r ganran wedi gostwng ar lefel ranbarthol o 35% i 26%.
Plaid Cymru sy’n debygol o elwa fwyaf o’r gostyngiad hwnnw, wrth i’r ffigurau awgrymu y gallen nhw godi i 26% o’r bleidlais, o’i gymharu ag 20% yn yr etholiad diwethaf.
Mae’r ymchwil yn nodi’n glir bod y Blaid Lafur ar ei chryfaf lle mae Plaid Cymru ar ei gwannaf, a Phlaid Cymru ar ei chryfaf lle mae’r Blaid Lafur ar ei gwannaf.
Gallai hynny fod yn ergyd i Leanne Wood, oedd yn gobeithio denu cefnogwyr y Blaid Lafur, yn enwedig yn y Cymoedd, i bleidleisio dros Blaid Cymru.
Ewrop
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod 42% o Gymry o blaid cynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi addo y byddai’r Ceidwadwyr yn cynnal refferendwm pe baen nhw’n ennill yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Nododd 35% yn yr holiadur gan YouGov eu bod nhw am weld Prydain yn tynnu allan o Ewrop.
UKIP
Ar lefel Brydeinig, mae nifer y bobol a fyddai’n pleidleisio dros y Blaid Lafur wedi cynyddu 15%.
Ond gallai’r Ceidwadwyr Cymreig ddioddef oherwydd cefnogaeth gynyddol i UKIP.
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol, Gareth Hughes: “Byddai’r siambr newydd yn y Cynulliad yn edrych yn wahanol iawn i’r un presennol.
“Byddai gan Lafur y mwyafrif gyda 31, a Phlaid Cymru fyddai’r wrthblaid swyddogol gyda 13 o seddau.
“Ond mae yna eironi…
“Roedd UKIP yn gwrthwynebu’r Cynulliad am nifer o flynyddoedd, ac roedden nhw am gael gwared arno – a nawr, os yw’r pôl yn gywir, fe fydden nhw’n dod yn chwaraewr yn y sefydliad roedden nhw am gael gwared arno ar un adeg.
“Ond mae pobol Cymru wedi gwrthod eu raison d’être trwy bleidleisio o blaid aros yn Ewrop.”
‘Trychineb i’r Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd’
Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur ar Faterion Cymreig, Owen Smith fod yr arolwg yn “newyddion trychinebus” i’r Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd.
“Mae’n dangos y gostyngiad yn y gefnogaeth ar gyfer clymbleidiau’r DU a phleidlais gref o hyder yn arweinyddiaeth Ed Miliband a Carwyn Jones.
“Mae’r ffaith fod y gefnogaeth i Blaid Cymru hefyd i lawr yn dangos bod pleidleiswyr yn gwerthfawrogi’r ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn sefyll i fyny dros Gymru yn wyneb toriadau gan San Steffan.
‘Nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau’ medd Plaid
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae’n dda o beth gweld Plaid Cymru yn arwain y pleidleisiau ar restr ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol, ond rydym oll yn sylweddoli fod amser maith cyn cyfres nesaf etholiadau’r Cynulliad, ac yn sicr nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau.
“Mae Plaid Cymru yn uchelgeisiol dros Gymru ac y mae’r pleidleiswyr yn amlwg yn gweld gonestrwydd a chadernid Leanne Wood fel arweinydd gwleidyddol.
“Mae gwleidyddiaeth Cymru yn unigryw ac y mae’n bwysig i Gymru fod mwy o arolygon barn fel hyn i ddangos beth yw’r farn gyhoeddus yng Nghymru.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Dems Rhydd: “Mae’r holl bleidiau gwleidyddol yn mynd i fyny ac i lawr yn y polau.
“Yr unig bleidlais fydd yn cyfri a’r unig un sydd wir yn adlewyrchu barn pobol Cymru yw’r un sy’n digwydd ar ddiwrnod yr etholiad.”