Mae tri dyn wedi eu cael yn euog o gynllwynio i niweidio cannoedd o Brydeinwyr drwy weithredoedd terfysgol heddiw.

Yn Llys y Goron  Woolwich, cafwyd Irfan Naseer, 31, Irfan Khalid, 27 ac Ashik Ali, 27, o Firmingham yn euog o gynllwynio gweithred terfysgol ar raddfa fwy na’r ymosodiadau yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005.

Roedd y tri yn aelodau blaenllaw o gynllwyn Islamaidd radical i ffrwydro hyd at 8 bom wedi eu gosod mewn bagiau,  a dyfeisiadau eraill, mewn ardaloedd poblog.

Roedd Naseer a Khalid wedi teithio i Bacistan er mwyn derbyn hyfforddiant gan derfysgwyr eraill ar sut i wneud dyfeisiau ffrwydrol, ac ar ôl dychwelyd i Brydain, fe ddechreuodd y tri gasglu  arian er mwyn talu am y cynllwyn.

Bu’r Heddlu yn gwylio’r tri am beth amser, a chlywon nhw Irfan Khalid yn brolio y byddai’r ymosodiad fel “9/11 unwaith eto” er mwyn “dial am bopeth.”

Dywedodd Mr Ustus Henriques bod y dynion yn beryglus iawn, ac y byddan nhw’n wynebu oes yn y carchar pan fyddan nhw’n cael eu dedfrydu ym mis Ebrill.