Mae o leiaf 31 o bobl wedi cael eu lladd mewn ymosodiad bom yn Namascus ger pencadlys y blaid Baath a llysgenhadaeth Rwsia.

Yn ôl adroddiadau, pobl gyffredin yw’r rhan fwyaf o’r rhai sydd wedi eu lladd, ond cafodd aelodau o wasanaethau diogelwch Syria hefyd eu lladd yn yr ymosodiad.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad ger siecbwynt yn ardal Mazraa.

Roedd  teledu Syria hefyd wedi adrodd am y ffrwydrad gan ddweud mai hunan-fomiwr oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad “terfysgol”.