Mae undebau yng ngwlad Groeg heddiw’n lawnsio streic gyffredinol er mwyn protestio’n erbyn toriadau llym gan y llywodraeth. Mae rhagolygon yn awgrymu y bydd lefel diweithdra yn cyrraedd 30% eleni.

Fe fydd gweithwyr y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn gweithredu am 24 awr er mwyn dod â’r wlad i stop. Fe fydd yn effeithio gwasanaethau fferi ac awyrennau a gwasanaethau cyhoeddus.

Fe fydd ysgolion y wladwriaeth, trafnidiaeth gyhoeddus, a hyd yn oed marchnadoedd ffermwyr, yn cael eu heffeithio gan y streic.

Yn Athen, mae 3,000 o heddweision ar ddyletswydd yn barod ar gyfer ralïau ar y strydoedd.

Mae’r prif weinidog Torïaidd, Antonis Samaras, wedi cael ei ganmol gan rai banciau am gyflwyno’r toriadau llym. Fe ddaeth i rym fis Mehefin y llynedd, ar ôl ffurfio llywodraeth glymblaid rhwng tair plaid.