Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi penderfynu cynnal ymchwiliad annibynnol i honiadau yn erbyn un o dditectifs Heddlu De Cymru.Fe ddaw hyn wedi amheuon na wnaeth yr heddwas weithredu ar ôl derbyn gwybodaeth am achos o drais honedig yn erbyn merch dan-oed ym mis Mawrth 2012.Fe ddaeth yr achos i’r wyneb yn ystod ymchwiliad troseddol arall gan Heddlu De Cymru, lle’r oedd honiadau eraill o droseddau rhyw yn erbyn yr un aelod o’r cyhoedd.

Fe gafodd yr achos ei gyflwyno i’r Comisiwn (yr IPCC).

“Dau achos” meddai Comisiynydd

Meddai Comisiynydd Cymru, yr IPCC, Tom Davies: “Fe gafodd yr achos hwn ei gyfeirio atom ni, ac mae’r un ditectif yn cael ei ymchwilio mewn cysylltiad ag achos arall a honiadau tebyg.

“Rwy’ i wedi penderfynu y byddwn ni’n ymchwilio’r achos diweddara’ hwn yn annibynnol,” meddai Tom Davies wedyn.

“Gan mai hwn yw’r ail achos yn ymwneud â’r swyddog hwn, rwy’ i wedi penderfynu y bydd yr ymchwiliad yn edrych hefyd ar sut y cafodd y swyddog hwn ei oruchwylio a’i reoli.”