Tlodi plant (llun o wefan y Child Poverty Action Group)
Mae dros hanner y plant yn byw mewn tlodi mewn pedair cymuned yng Nghymru, yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu rhyddhau gan yr Ymgyrch i Roi Pen ar Dlodi Plant.
Mae tlodi plant ar ei waethaf yn wardiau etholiadol Gorllewin y Rhyl a Phen-y-Waun ger Aberdâr, ble mae 54% o blant yn byw mewn tlodi.
Mae dros hanner y plant yn Townhill, Abertawe, ac yn Wynnstay ar ystâd Parc Caia yn Wrecsam hefyd yn byw mewn tlodi medd y ffigurau.
Mae’r Ymgyrch, sy’n goalisiwn o elusennau a mudiadau, yn rhybuddio fod tlodi plant yn niweidio profiadau plentyndod nifer o blant, ac yn cyfyngu ar eu cyfleon yn hwyrach mewn bywyd.
Cafodd y canrannau eu crynhoi trwy edrych ar y nifer o blant sy’n byw mewn teuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau diweithdra neu gredydau treth, ac sy’n adrodd incwm sy’n is na 60% o’r incwm cyfartalog.
Amrywiaeth ar draws Cymru
Mae map tlodi plant yr Ymgyrch i Roi Pen ar Dlodi Plant yn dangos fod amrywiaeth fawr ar draws Cymru, ac o fewn ardaloedd.
Yn etholaeth Gorllewin Abertawe mae un o’r canrannau uchaf o dlodi plant, yn Townhill (51%), ond hefyd rhai o’r canrannau isaf yng Nghymru yn wardiau Mayals a Gogledd Cilâ ble mae llai na 5% yn byw mewn tlodi.
De Caerdydd a Phenarth, sy’n cynnwys ardaloedd Tre-biwt a Sblot, yw’r etholaeth yng Nghymru gyda’r ganran uchaf o blant sy’n byw mewn tlodi – 30%
Y tair etholaeth gyda’r ganran isaf o dlodi plant – 11% – yw Brycheiniog a Maesyfed, Gogledd Caerdydd, a Mynwy.
Y Deyrnas Gyfunol
Mewn rhai ardaloedd di-fraint yn ninasoedd Llundain, Belffast, Glasgow, Birmingham, Lerpwl a Middlesbrough roedd pedwar o bob 10 plentyn yn byw mewn tlodi yn 2012.
Mae’r sefyllfa gyffredinol yn well nag yn 2011, meddai’r elusen, ar wahân i ogledd ddwyrain Lloegr ble mae tlodi plant wedi cynyddu yn Newcastle a Middlesbrough.
Roedd tlodi plant ar ei isaf yn etholaeth y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, yn Sheffield Hallam, ble roedd y ffigwr dan 5%. Roedd y ganran yn isel hefyd yn etholaeth David Cameron yn Witney – o dan 10%.
Ymateb
“Mae’r gwahaniaethau mawr ar draws y wlad wedi caledu wrth i blant gael eu dal mewn tlodi ac anfantais tymor hir,” meddai Enver Solomon, cadeirydd yr Ymgyrch.
Yn ôl Rhian Beynon o Family Action mae angen cymysgedd o gefnogaeth gan wasanaethau a’r system les, a’r Llywodraeth sy’n “anfon y neges bwysicaf ar y polisiau hyn i awdurdodau lleol”.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau eu bod nhw’n mynd i’r afael â ffactorau sy’n cyfrannu at dlodi plant, megis diffyg gwaith, diffyg addysg, a theuloedd yn chwalu.