Boyko Borisov
Mae Prif Weinidog Bwlgaria wedi cyhoeddi heddiw y bydd ei lywodraeth adain-dde yn ymddiswyddo o ganlyniad i brotestiadau cymdeithasol yn y wlad.

Mae Boyko Borisov wedi dweud wrth y senedd fore heddiw y bydd yn cyflwyno ei ymddiswyddiad ar ôl cyfarfod arferol ei gabinet yn ddiweddarach heddiw.

Fe ddaw’r penderyniad wedi i ddegau o giloedd o bobol o bob gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd gynnal protestiadau ar y strydoedd, a chyhuddo ei lywodraeth o fethu â gwella safonau byw.

Fe drodd y brotest yn y brifddinas, Sofia, neithiwr yn dreisgar, wrth i heddweision mewn dillad reiat wrthdaro gyda phrotestwyr. Fe gafodd 14 o bobol eu hanafu.