Llun ffon symudol o'r maen awyr (Ap Photo)
Fe gafodd mwy na 400 o bobol eu hanafu ar ôl i ddarnau o faen awyr daro ardal anghysbell yn Rwsia.
Fe gafodd y rhan fwya’ eu brifo gan ddarnau o wydr wrth i’r maen chwalu a tharo’r ddaear yn ardal Chelyabinsk tua 900 milltir o’r brifddinas Moscow.
Roedd pobol leol yn sôn am fflach o olau a sŵn fel taran, gyda phobol yn mynd i banig heb wybod beth oedd yn digwydd.
Fe lwyddodd un dyn i dynnu lluniau o’r maen awyr ar ei ffôn symudol ac mae’r rhein y bellach wedi mynd o amgylch y byd.
Fory, mae disgwyl i asteroid, sy’n llawer mwy, ddod o fewn 17,000 milltir i’r ddaear – yr agosa’ ers cyn cof.