Fiona Pilkington a fu farw yn 2007
Fe ddylai pobol sy’n diodde’ oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol gael yr hawl i fynnu bod asiantaethau’n gweithredu.

Ac, yn ôl Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin, ddylai neb orfod diodde’ mwy na phump digwyddiad cyn fod asiantaethau’n ymateb i’w cwynion.

Mae’r pwyllgor hefyd yn dweud y dylai asiantaethau gael eu henwi’n gyhoeddus os ydyn nhw’n methu â gweithredu.

‘Nid peth dibwys’

Fe ddaeth yr adroddiad o ganlyniad i ddau achos lle’r oedd menywod wedi eu lladd eu hunain ar ôl cyfnod hir o gael eu poeni gan ymddygiad o’r fath.

Yn un achos, roedd gwraig o’r enw Fiona Pilkington wedi lladd ei hunan a’i merch anabl ar ôl diodde’ am gyfnod hir, er gwaetha’ gofyn am gymorth yr heddlu.

“Nid rhywbeth bach dibwys i’w anwybyddy yw ymddygiad gwrthgymdeithasol,” meddai Cadeiryddy Pwyllgor, Keith Vaz. “Mae’n gallu torri bywydau a magu torcyfraith yn ein cymunedau.

“Ddylai neb orfod cwyno mwy na phump gwaith cyn bod gweithredu’n digwydd.”