Mae pump o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i awyren oedd yn cludo cefnogwyr pêl-droed lithro oddi ar y llain lanio a throi drosodd.

Roedd yr awyren Southern Airlines yn cludo 44 o deithwyr o Odessa yn Wcraen ac fe ddigwyddodd y ddamwain yn ninas Donetsk yn nwyrain y wlad ychydig ar ôl 6 o’r gloch y nos.

Dydy achos y ddamwain ddim yn glir eto, ac mae timau wrthi’n ymchwilio ar hyn o bryd.

Dywedodd un o’r teithwyr wrth gyfryngau’r Wcraen fod yr awyren wedi hollti cyn mynd ar dân.

Llwyddodd nifer o deithwyr i ddianc trwy dwll yn yr awyren.

Cwpan Ewrop

Roedd y cefnogwyr wedi bod yn teithio i gêm Cwpan Ewrop rhwng Shakhtar Donetsk a Borussia Dortmund.

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal cyn yr ornest.

Mae gan rai o’r gwledydd Sofietaidd y record gwaethaf yn y byd o ran diogelwch awyrennau ac mae yna le i gredu mai oedran awyrennau, rheolaeth wan y llywodraeth, diffyg hyfforddiant i beilotiaid ac ymdrechion i dorri costau sy’n gyfrifol am y record hwnnw.