Fe ddylai’r Cynulliad fod yn gorff cwbl ddwyieithog lle mae’n hawdd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg neu ddwy, meddai’r Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am yr iaith yn y sefydliad.

Mewn erthygl i gylchgrawn Golwg, mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud bod y Cynulliad yn gweithio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol a fydd “yn amlinellu gweledigaeth gyffrous” o sut y gall y Gymraeg a’r Saesneg “fyw a ffynnu ochr yn ochr”.

Yr elfen bwysica’ yw gwneud yn siŵr fod pobol yn defnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â’r Cynulliad, meddai, gan drafod ei gyfrifoldeb yn swydd Comisiynydd y Cynulliad gyda chyfrifoldeb am yr iaith.

“Waeth pa mor amserol neu gynhwysfawr yw darpariaeth y Cynulliad o wasanaethau Cymraeg mewn Deddf neu Gynllun, maent yn ofer oni bai fod pobol yn defnyddio’r Gymraeg.”

Darn Barn gan Rhodri Glyn Tomos yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg