Reg Presley
Mae’r seren roc a phrif leisydd The Troggs, Reg Presley, wedi marw yn dilyn brwydr yn erbyn canser yr ysgyfaint. Roedd yn 71 mlwydd oed.
Bu farw yn ei gartref yn Andover, Hampshire.
Roedd Reg Presley yn fwyaf adnabyddus am ganu’r anthem roc Wild Thing.
Fe ffurfiodd The Troggs yn y ‘60au a daeth y band yn enwog am eu caneuon gan gynnwys Wild Thing, With A Girl Like You, ac I Can’t Control Myself.
Cafodd ei yrfa hwb yn y 1990au pan wnaeth REM ac yna Wet Wet Wet eu fersiynau eu hunain o Love is All Around – cân The Troggs o 1967.
Arhosodd Wet Wet Wet yn rhif un yn y siartiau Prydeinig am 15 wythnos yn 1994 gyda’u fersiwn nhw o’r gân.