Mae un o benaethiaid corff hawliau darlledu Eos wedi awgrymu y gallai caneuon eu haelodau gael eu chwarae eto ar Radio Cymru “cyn bo hir.”

Ar Radio Cymru y bore ma dywedodd Dafydd Roberts fod Eos yn barod i adael i’r BBC ddefnyddio cerddoriaeth yr aelodau tra bod trafodaethau yn parhau rhwng y ddwy ochr, a chyn bod cytundeb terfynol.

Nid yw Radio Cymru wedi medru chwarae tua 30,000 o ganeuon Cymraeg eleni am fod anghydfod am daliadau i gerddorion.

Mae Eos yn cynnal y cyntaf o ddau gyfarfod gyda’u haelodau heno yng Nghaerdydd. Mae disgwyl iddyn nhw drafod cynnig y BBC i dalu am wasanaeth cymodi ond dywedodd Dafydd Roberts nad yw’n credu fod y mater yn “ddigon cymhleth” i orfod mynd at gymodwr.

Dywedodd mai trafodaeth fasnachol am daliadau yw’r drafodaeth rhwng Eos a’r BBC yn hytrach na thrafodaethau am faterion megis amodau gwaith a phensiynau.

Bydd Eos yn cynnal ail gyfarfod gydag aelodau ar Ddydd Gwener, Chwefror 8 yng Nghaernarfon.