Orig Williams
Mae’r gantores ac actores Tara Bethan wedi cyhoeddi ei bod hi’n rhedeg marathon Llundain ym mis Ebrill er cof am ei thad, y reslwr Orig Williams.

Bydd hi’n codi arian tuag at Sefydliad y Galon.

Bu farw Orig Williams yn dilyn trawiad ar y galon yn 2009.

I baratoi ar gyfer y marathon, bydd Tara Bethan yn ymgymryd â’r her o ddringo mynydd Killimanjaro.

Dywedodd Tara Bethan wrth Golwg360 ei bod hi wedi cofrestru ar gyfer y marathon haf diwethaf tra ei bod hi’n gweithio ar Pobol y Cwm.

Dywedodd: “Dim ond rhedeg i gael sbort ydw i fel arfer. Roedd ’na hanner marathon yng Nghaerdydd ym mis Hydref felly gwnes i hwnnw.”

Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer y marathon eisoes wedi dechrau i Tara, ac mi fydd hi’n mynd i Tanzania yn fuan i ddringo Killimanjaro.

Dywedodd: “Mi fydda i’n mynd i Tanzania am wyth diwrnod i ddringo Killimanjaro, ond mi ga’ i amser i fi fy hun i ymlacio ar saffari am saith diwrnod wedyn.

“Mi o’n i wedi meddwl mynd ar wyliau i rywle yn yr haul yn y Caribi, ond daeth y cyfle yma a dyma fi’n gwneud hyn.”

Yn ystod y cyfnod rhwng nawr a’r marathon ym mis Ebrill, bydd Tara Bethan yn rhedeg dwy filltir ychwanegol bob tro y bydd hi’n mynd allan er mwyn cyrraedd y nod o 26.2 milltir.

Ychwanegodd: “Mae gen i raglen hyfforddi dwi’n gwneud 4 gwaith yr wythnos, gan ddechrau efo rhedeg 6 neu 7 milltir ar y tro.

“Mi fydda i’n cynyddu i 12 milltir cyn hir.

“Mi fues i allan mewn parc yn rhedeg yn Llundain adeg yr eira ac oedd hynna’n ymarfer anodd.”

Codi arian ar gyfer elusen Sefydliad Prydeinig y Galon, wnaeth gymaint i ofalu am ei thad, yw ei hysgogiad i redeg y ras.

“Mi ro’n i ar daith Joseph pan fu dad farw. Mi wnes i gyrraedd nôl mewn pryd i ddeud ta-ta wrtho fo ar ôl iddo fo gael y trawiad olaf.

“Heb y staff oedd yn gofalu amdano fo, fyddwn i ddim wedi cael y cyfle hwnnw. Mi wnes i werthfawrogi’r cyfle hwnnw’n fawr iawn, ac mae’n rhoi rhyw fath o closure i fi.”

Cyn iddi fynd ati i redeg y marathon, bydd yn rhaid iddi godi £3,000 at yr achos.

“Dw i ddim wedi cadarnhau unrhyw beth eto. Dw i ddim yn gwybod pryd na ble na phwy, ond mi fydd yna gig yn cael ei drefnu yng Nghaerdydd rywbryd.”