Llun: ITV
Mae’r gyfres boblogaidd ‘Thunderbirds’ yn dychwelyd i’r sgrîn deledu, hanner canrif ers i’r rhaglen gyntaf gael ei darlledu.
Bydd y gyfres newydd, ‘Thunderbirds Are Go!’ yn ymddangos ar ITV yn 2015.
Bu farw Gerry Anderson, y dyn a greodd y gyfres wreiddiol, ym mis Rhagfyr.
Bydd y gyfres newydd yn fath o deyrnged i’r gyfres wreiddiol, oedd yn dilyn hynt a helynt y brodyr Tracy wrth iddyn nhw fynd ar deithiau achub ledled y byd.
Mae’r gyfres yn enwog am yr ymadrodd “Thunderbirds are go!”, a daeth y gyfres yn boblogaidd unwaith eto yn y 1990au.
Cafodd dwy ffilm eu creu yn y 1960au, y gyntaf, Thunderbirds Are Go yn 1966 a’r ail, ‘Thunderbird 6’ yn 1968.
Mae’r cwmni Pukeko Pictures yn Seland Newydd yn cyd-gynhyrchu’r gyfres gyda Weta Workshop, sy’n adnabyddus am weithio ar y ffilmiau ‘King Kong’, ‘Avatar’ a ‘Lord of the Rings’.
Bydd ITV a’r sianel i blant, CiTV yn darlledu’r gyfres ar ffurf 26 rhaglen o hanner awr yr un.